Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Mae agendâu’r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i’w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
Dydd Mawrth 31 Ionawr 2017
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol: Diwygio Llywodraeth Leol (60 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Yr Adolygiad Hazelkorn o Addysg yng Nghymru (45 munud)
· Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) 2017 (15 munud)
· Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 6) 2017 (15 munud)
· Dadl: Yr Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2015-2016, gan gynnwys Adroddiad Interim Gweinidogion Cymru ar Gydraddoldeb 2016 (60 munud)
Dydd Mercher 1 Chwefror 2017
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig (45 munud)
· Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
· Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Ymchwiliadau’r Pwyllgor
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar ei ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17 (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dadl Fer – Nick Ramsay (Mynwy) (30 munud)
Dydd Mawrth 7 Chwefror 2017
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Cynllun Cyflenwi ar gyfer Cyflyrau ar y Galon (45 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth: Menter Ymchwil Busnesau Bach (45 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Gweithio Gyda’n Gilydd i Greu Cymunedau Mwy Diogel (45 munud)
· Dadl: Sicrhau Dyfodol Cymru: Trefniadau pontio ar gyfer symud o aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd i berthynas newydd ag Ewrop (90 munud)
Dydd Mercher 8 Chwefror 2017
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)
· Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
· Dadl ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau (30 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei ymchwiliad i Waith Ieuenctid (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud)
· Dadl Fer – Lynne Neagle (Torfaen) (30 munud)
Dydd Mawrth 14 Chwefror 2017
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Sefydlu’r Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth (45 munud)
· Gorchymyn y Cyngor Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2017 (15 munud)
· Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol a Chynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Addysg Uwch ac Ymchwil (15 munud)
· Dadl: Môr-lynnoedd Llanw (60 munud)
Dydd Mercher 15 Chwefror 2017
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (45 munud)
· Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ei waith craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (60 munud).
· Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)